Beth yw Eglwys?

Cynlluniwyd y gyfres hon o bum sesiwn astudio ryngweithiol ar gyfer aelodau ac arweinwyr er mwyn eu hannog i ystyried y newidiadau sydd eu hangen yn eu heglwysi/capeli i annog twf.  Darperir llawlyfr arweinwyr a deunyddiau ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan, ynghyd â chyflwyniad PowerPoint.  Os ceir cais, gall Cymrugyfan gynnig cymorth gyda chyflwyno’r deunydd mewn rhannau gwahanol o Gymru.

Gallwch lawrlwytho cyflwyniad manwl i'r cwrs ynghyd â sesiwn sampl yma: Beth yw Eglwys?

Os hoffech ddefnyddio'r cwrs yn eich eglwys, os gwelwch yn dda ebostiwch post@cymrugyfan.org. Os gwelwch yn dda rhowch rif ffôn yn eich ebost fel y gallwn gysylltu â chi i'ch helpu i gael y gorau o'r cwrs. Yna byddwn yn rhyddhau’r deunydd cwrs i chi, gan gynnig unrhyw gymorth pellach a allech fod ei angen.

Darperir y deunyddiau yn rhad ac am ddim, ond gofynnwn yn garedig i chi lenwi taflen adborth wedi i chi gwblhau'r cwrs.