Diwrnod i Gymru

Hoffem annog capeli i weddïo dros Gymru drwy gydol y flwyddyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar hyn o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi.

Awgrymiadau ar gyfer eich ‘Diwrnod i Gymru’...

Awgrymwn eich bod yn rhoi 5-10 munud yn ystod eich cyfarfod Sul i gyflwyno:

Ymwybyddiaeth o’r angen

Eglurwch yr heriau sy’n ein hwynebu mewn ardaloedd heb eglwysi byw.  Eglurwch yr anghenion penodol mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, lle mae traddodiad a ffurfioldeb wedi cael gafael dynn, mannau lle mae cynulleidfaoedd yn aml yn oedrannus a’r niferoedd yn dirywio’n gyflym.

Amser o weddi gyda’ch gilydd

Gweddïwch dros Gymru yn gyffredinol, anogwch bobl i weddïo dros un neu ddwy sefyllfa benodol sy’n berthnasol i’ch eglwys a thros unrhyw fenter yr ydych eisoes yn gysylltiedig â hi. Gweddïwch hefyd dros y tair sefyllfa sydd yn cael eu hamlinellu yn y fidio yma, a dros y gwaith o blannu eglwysi newydd.