Cwestiwn

Mae Cwestiwn yn gyfres o chwech fideo trafod cychwynnol yn annog pobl sy’n dechrau ar siwrne ffydd i ystyried y math o gwestiynau sy’n cael eu holi’n aml am Dduw. Mae canllaw i arweinwyr yn darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol i gynnal y sesiynau ac mae ynddo hefyd gwestiynau trafod defnyddiol. Dyma’r penawdau:

Creu – rhoddion creadigrwydd Duw

Organig – Duw yn y greadigaeth

Tlws – Pwrpas y tu hwnt i’r bywyd hwn

Poen – Pan fo bywyd yn boenus

Cyd-ddigwyddiad – Gweddi ac ysbrydolrwydd

Meseia – Duw yng Nghrist

Cynhyrchwyd y fideos yng Nghymru gan Jon Vaughan-Davies, sy’n cyflwyno’r fersiwn Saesneg. Cynan Llwyd sy’n cyflwyno yn y Gymraeg. Gallwch lawrlwytho’r canllaw i arweinwyr yma.