Rhybudd Preifatrwydd

Mae Cymrugyfan yn casglu data personol er mwyn i ni allu anfon gwybodaeth atoch am blannu a chryfhau eglwysi yng Nghymru.  Rydym yn prosesu'r data'n gyfreithlon ar sail ein gwir ddiddordeb mewn hyrwyddo bwriadau Cymrugyfan, sy'n elusen gofrestredig.

Gall y data rydym yn ei gasglu gynnwys eich enw, cyfeiriad cartref a/neu e-bost, rhifau ffôn ac aelodaeth eglwysig.  Mae'n bosibl y byddwn yn cofnodi gwybodaeth a gawn gennych: wrth i chi gofrestru ar gyfer digwyddiad; pan ddywedwch wrthym eich bod wedi gweddïo; wrth i chi gyfrannu’n ariannol neu gysylltu â ni mewn unrhyw ffordd arall.

Fel arfer byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost ond gallem hefyd ddefnyddio ffordd arall o gysylltu.

Squarespace yw gwesteiwyr ein gwefan. Cesglir data ymwelwyr er mwyn dadansoddi’r wefan a gosodir dadansoddwyr a chwcis ar eich cyfrifiadur er mwyn ffwythiant a dadansoddi. Yn ogystal, cesglir data pan fyddwch yn archebu neu’n gofyn am wybodaeth.

Anfonir negeseuon e-bost tanysgrifwyr drwy Squarespace ac mae’r data tanysgrifwyr canlynol yn cael eu cadw’n ddiogel ganddynt: cyfeiriad e-bost, enw cyntaf, cyfenw.

Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw sefydliad arall.

Os gofynnwch i ni beidio â chysylltu â chi, yna byddwn bob amser yn parchu hynny.  Mae ein negeseuon ebost yn cynnwys cyfarwyddiadau ar ddad-danysgrifio.

Byddwn yn diwygio'n cofnodion pan roddwch wybodaeth newydd neu wybodaeth ddiwygiedig i ni.