Yr Hyn a Gredwn

Deillia ethos Cymrugyfan o‘i Ddatganiad Ffydd ynghyd â’r daliadau canlynol:

Byddwn yn rhwydweithio i blannu eglwysi newydd neu gryfhau’r rhai sy’n bodoli eisoes, yn ôl y galw.  Teimlwn yr Ysbryd Glân yn gweithio drwy’r rhwydweithiau efengylaidd ac yn pwyso arnom i weithredu yn awr i symud ymlaen ar fyrder.

Cred Cymrugyfan fod eglwysi’r Testament Newydd wedi eu sefydlu naill ai gan arweinwyr cenhadol a thîmau o bobl yn symud i ardal, neu gan gredinwyr mewn ardal yn casglu ynghyd i sefydlu eglwys.  Yn y ddau achos, roedd yr eglwys ehangach yn cefnogi’n weithredol yr eglwysi oedd yn datblygu.

Mewn ymateb i hyn, bydd Cymrugyfan yn weddïgar yn ei ystyriaeth i geisio adnabod yr ardaloedd mwyaf anghenus (yn ddaearyddol, yn gymdeithasegol ac yn ieithyddol), yn hysbysu eglwysi ar draws Cymru am yr heriau, gan geisio crynhoi gweddi, cefnogaeth, pobl ac adnoddau ar gyfer y sefyllfaoedd hyn er mwyn plannu eglwysi newydd neu gryfhau’r rhai presennol fel y bo’n addas.

Bydd Cymrugyfan yn ceisio bob amser i barchu a chefnogi pobl efengylaidd sydd eisoes yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd, gan geisio canfod yr hyn mae Duw yn ei wneud eisoes.

Cred Cymrugyfan fod yr Arglwydd Iesu’n dymuno gweld eglwysi iach, yn canolbwyntio ar yr efengyl, mewn ardaloedd yng Nghymru lle ar hyn o bryd ceir ond Cristnogion gwasgaredig neu eglwysi’n dirywio’n ddifrifol. Teimlwn fod yr Ysbryd Glân yn pwyso ar bobl ar draws y gwahanol rwydweithiau efengylaidd gymaint o frys sydd i’r gwaith hwn.

  • Mai un Duw sydd mewn tri pherson: y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân.

  • Bod Duw yn sofran yn y greadigaeth, mewn datguddiad, mewn achubiaeth ac yn y farn derfynol.

  • Bod y Beibl, fel y’i rhoddwyd yn wreiddiol, yn Air ysbrydoledig ac anffaeledig Duw. Hwn yw’r awdurdod pennaf ym mhob mater ynghylch ffydd a buchedd.

  • Ers y Cwymp, bod y ddynoliaeth gyfan yn bechadurus ac yn euog, fel bod pawb yn agored i gondemniad a llid Duw.

  • Bod yr Arglwydd Iesu Grist, Mab ymgnawdoledig Duw, yn Dduw cyflawn; wedi ei eni o forwyn; bod ei ddyndod yn real ac yn ddibechod; iddo farw ar y groes, iddo gael ei godi’n gorfforol o farwolaeth a’i fod yn awr yn teyrnasu dros y nef a’r ddaear.

  • Y caiff bodau dynol pechadurus eu gwaredu oddi wrth euogrwydd, cosb a grym pechod yn unig drwy farw aberthol eu cynrychiolydd a’u heilydd (substitute), Iesu Grist, un waith ac am byth, yr unig gyfryngwr rhyngddynt â Duw.

  • Bod y rhai sy’n credu yng Nghrist yn derbyn maddeuant o’u holl bechodau a’u bod yn cael eu derbyn yng ngolwg Duw yn unig oherwydd cyfiawnder Crist a gyfrifir iddynt; gweithred o ras anhaeddiannol Duw yw’r cyfiawnhad hwn, a dderbynnir yn unig wrth ymddiried ynddo, ac nid trwy eu hymdrechion eu hunain.

  • Mai'r Ysbryd Glân yn unig sy’n gwneud gwaith Crist yn effeithiol i bechaduriaid unigol, gan eu galluogi i droi oddi wrth eu pechodau at Dduw, gan ymddiried yn Iesu Grist.

  • Bod yr Ysbryd Glân yn byw yn yr holl rai y mae wedi eu hatgenhedlu. Gwna hwy yn gynyddol debyg i Grist mewn cymeriad ac ymddygiad ac fe rydd iddynt rym ar gyfer eu tystiolaeth yn y byd.

  • Mai Corff Crist yw’r un eglwys sanctaidd fyd-eang ac i hon y perthyn pob gwir grediniwr.

  • Y bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dychwelyd yn ei berson, i farnu pawb a gweithredu condemniad cyfiawn Duw ar y rhai sydd heb edifarhau, gan dderbyn y rhai a brynwyd i ogoniant tragwyddol.