Cynnwys y Cwrs

Mae Derwen yn rhaglen ddwy flynedd â 6 thon ddysgu.

Bydd ton ddysgu’n cael ei lansio mewn cyfarfod cenedlaethol a bydd yn parhau drwy gydol y tymor gyda dysgu unigol, gyda mentor ac fel grŵp rhanbarthol.

Y dyddiadau allweddol ar gyfer y cyfarfodydd cenedlaethol yw penwythnos olaf Medi, penwythnos olaf Tachwedd a thrydydd penwythnos mis Mawrth.

  • BLWYDDYN 1

    1. Ffydd a Doniau Arloesi

    Dechreuwn ein taith drwy edrych ar hanes Nehemeia. Mae’n hanes sy’n ffurfio’r ddwy flynedd drwy’n cyflwyno ni i themâu galwad, anobaith sy’n arwain at weddi, ffydd, gweledigaeth, gweithredu, adfer ac ailadeiladu!

    2. Sancteiddrwydd a Hunan-arwain

    Yn yr ail don rydym yn canolbwyntio ar gymeriad yr arweinydd fel un sy’n arwain ei hun ym mhob cylch o fywyd. Hanes Daniel yw’r gefnlen a byddwn hefyd yn ystyried gwaith yr Ysbryd Glân ym mywyd arloeswr.

    3. Ailddychmygu’r Eglwys

    Wrth deithio drwy benodau cyntaf Llyfr yr Actau byddwn yn ceisio ailddarganfod gwerthoedd yr eglwys gynnar, gan ail-ddychmygu’r modd y gallant lunio’n gweledigaeth.

  • BLWYDDYN 2

    4. Cenhadaeth yng Nghyd-destun Cymru

    Yn y bedwaredd don byddwn yn dysgu a chael ein hysbrydoli gan hanes cyfoethog arloesi yng Nghymru, a hefyd yn ceisio cymhwyso’r gwerthoedd a’r weledigaeth a ddysgwyd yn y drydedd don i’n cyd-destun unigryw ni.

    5. Gweddi a Mawl wrth Arloesi

    Yn ystod y don ddysgu hon, byddwn yn ystyried adroddiadau beiblaidd a hanesyddol arloesi ynghyd â gweinidogaeth yr efengyl drwy rym gweddi.

    6. Cael ein Grymuso a’n Harwain gan yr Ysbryd

    I’w gadarnhau.